Hanes ac Amcanion
Nod y Gymdeithas yw hyrwyddo diddordeb ym mhob agwedd ar emynyddiaeth Cymru – emynau, tonau, awduron, cyfansoddwyr a thraddodiadau. Mae’r Gymdeithas yn: • dwyn pobl ynghyd i ddarlithiau ac ysgolion undydd i ddysgu ac i drafod gwahanol agweddau ar emynyddiaeth Cymru. • casglu a diogelu defnyddiau. • hyrwyddo astudio emynau ac emyn-donau. • cyhoeddi ffrwyth ymchwil yn y maes. • cysylltu â chymdeithasau emynau mewn gwledydd eraill. Rheolir digwyddiadau'r Gymdeithas gan y Pwyllgor Gwaith. | ||
Cyswllt: 01570 422 992 e-bost Dylunio'r wefan: mach2media a Technoleg Taliesin Cyf. |